Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (225)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i Gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd (60 munud) NDM5601 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Hydref 2014.
Dogfennau Ategol
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er gwaethaf y cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yn y ddau gytundeb diwethaf ar y gyllideb, fod toriadau yn ystod y flwyddyn o £10.7 miliwn wedi gadael darparwyr dysgu yn nhir neb.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod yr effaith sylweddol a chadarnhaol a gafodd y cytundeb ar gyllideb 2013/14 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar bobl ifanc ac yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gymryd cam yn ôl a thorri'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd. |
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r amodau economaidd sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;
2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynyddu ei hymdrechion i leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a ffermio ar y cyd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7% yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd Cymru.
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth. |
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5603 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd porthladdoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi y gallai cynnydd mewn morgludiant byr ym mhorthladdoedd Cymru sicrhau manteision yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith gyda WEFO ar ddatblygiadau isadeiledd a rôl porthladdoedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan Borthladdoedd Cysylltiedig Prydain y gallai llwybr du arfaethedig yr M4 gael effaith ddifrifol ar fasnach yn Nociau Casnewydd.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru bod y cyfrifoldeb dros borthladdoedd yn cael ei ddatganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi statws Caergybi yn rhaglen TEN-T yr Undeb Ewropeaidd fel porthladd cynhwysfawr yn hytrach na phorthladd Ewropeaidd craidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob opsiwn er mwyn sicrhau nad yw'r statws eilradd hwn yn ei rwystro rhag tyfu. |
7 Cyfnod Pleidleisio |
8 Dadl Fer (30 munud) Lynne Neagle (Torfaen)
Ffrindiau Dementia - Gweithio tuag at gymunedau sy'n ystyriol o ddementia ledled Cymru |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Tachwedd 2014